Ystafelloedd Gwely
1
Cysgu
2
Ystafelloedd Ymolchi
2
Llefydd Tân
1

Bwthyn Celyn

Camwch i mewn i’n bwthyn 1 llofft drwy’r cwrt a drws stabl i gegin ac ystafell fwyta / eistedd cynllun-agored hyfryd a charismatig. Mae nenfwd o drawstiau derw ffrâm ‘A’ bwaog uchel dros yr ardal eistedd yn ymestyn at lofft galeri wych uwchben y gegin. Mae llawr llechen traddodiadol i’r llawr isaf gyda gwres dan y llawr.

Llawr Gwaelod

Mae unedau hufen modern yn y gegin gyda wal llechen, hob a phopty trydan, peiriant golchi llestri, oergell/rhewgell a phopty microdon. Mwynhewch eich bwyd ar ein bwrdd bwyta derw gyda dwy gadair dderw cefn uchel. Cewch ddadflino ar ein cadeiriau breichiau lledr o flaen stôf goed gyfoes neu ymlacio gydag adloniant chwaraewr DVD neu deledu sgrîn wastad. Mae’r ystafell gawod i lawr grisiau yn cynnwys swît wen, cawod, toiled a basn golchi dwylo.

Llawr Cyntaf

Mae grisiau yn arwain i lofft galeri anhygoel gyda thrawstiau derw agored, lloriau derw, dodrefn derw a bath dwfn sy’n sefyll ar ei draed ei hun. Mae gan y gwely dwbl maint brenin le cuddiedig i hongian dillad y tu ôl i ben y gwely. Bydd y golygfeydd godidog drwy’r ffenestri velux o gefn gwlad agored yn coroni eich arhosiad mewn llety 5 seren go iawn.

Y tu allan

Mae drysau patio dwbl yn arwain o’r ardal eistedd i batio gyda dodrefn gardd a barbiciw; y mae tri gris o hen bren rheilffordd yn arwain at y lawnt gaeëdig. Gallwch ddadlwytho eich car wrth y bwthyn ac mae lle parcio gerllaw. Ymlaciwch tu allan yn yr twba twym sy'n unigryw i'r bwthyn yma. Mae croeso i'r plant i fynd i chwarae yn y parc.