Ystafelloedd Gwely
3
Cysgu
6
Ystafelloedd Ymolchi
3
Llefydd Tân
1

Bwthyn Derwen

Camwch i mewn i’n bwthyn 3 llofft drwy gwrt bach a drws stabl i mewn i’r cyntedd a thrwodd i’r gegin/ystafell fwyta ac eistedd cynllun agored gyda llawr llechen a matiau.

Llawr Gwaelod

Mae unedau hufen modern wedi eu ffitio yn y gegin gyda wal lechen. Mae hob a phopty trydan a pheiriant golchi llestri integrol, yn ogystal â phopty microdon ac oergell/rhewgell. Ceir bwrdd bwyta derw a 6 chadair dderw cefn uchel yn yr ardal fwyta. Mae stôf losgi coed fawr yn y lle tân yn y lolfa agored. Mae wedi ei dodrefnu gyda 2 soffa sy’n eistedd 3, bwrdd coffi, teledu sgrîn wastad, chwaraewr DVD a dodrefn ychwanegol.

Mae’r llofft ar y llawr isaf yn addas ar gyfer gwestai gyda rhwystrau cerdded. Wedi ei dodrefnu gyda dau wely 3 troedfedd (y gellir eu gosod gyda’i gilydd i ffurfio gwely 6 troedfedd anferth maint brenin drwy wneud cais wrth archebu lle) a dodrefn llofft derw. Mae ystafell gawod gyda mynediad anabl pwrpasol gerllaw yn cynnwys cawod mynediad anabl, toiled a basn golchi dwylo.

Llawr Cyntaf

Mae dwy lofft arall ar y llawr cyntaf. Yn y brif ystafell wely mae gwely dwbl anferth maint brenin gyda bath a basn golchi dwylo cyfoes wedi eu cuddio tu ôl i ben y gwely a thoiled ar wahân. Mae’r llofft wedi ei dodrefnu gyda wardrob dderw, bwrdd ymbincio a byrddau ochr gwely.

Yn y drydedd lofft mae dau wely 3 troedfedd (y gellir eu gosod gyda’i gilydd unwaith eto), wardrob, cist ddillad a byrddau ochr gwely. Y mae ciwbicl cawod, toiled a basn golchi dwylo yn yr ensuite. Y mae ffenestri velux yn y ddwy lofft yn rhoi golygfeydd bendigedig o gefn gwlad agored.

Y tu allan

Mae drysau patio dwbl yn arwain o’r gegin a’r ardal fwyta i batio gyda dodrefn gardd a barbiciw; mae tri gris o hen bren rheilffordd yn arwain at y lawnt gaeedig. Dim anifeiliaid anwes a dim ysmygu. Ymlaciwch tu allan yn y twb twym sy'n unigryw i Fwthyn Derwen. Mae croes i'r plant ddefnyddio'r parc.