Beicio

Mae beicio yn ffordd ardderchog o fwynhau'r golygfeydd hollol anhygoel yn ein cefn gwlad prydferth. Mae gennym feiciau a lle i storio beiciau ar gael yma ym Mythynnod Dolyrychain.

Mae beicio yn ffordd ardderchog o fwynhau'r golygfeydd hollol anhygoel yn ein cefn gwlad prydferth, cael gwir brofiad o'r awyr agored, gallwch fynd i feicio mynydd, ar y ffordd neu oddi ar y ffordd a mynd am reidiau ffantastig gyda'r teulu. Mae Ceredigion yn cynnig llwybrau dynodedig, gallwch gyrchu Llwybr Ystwyth yn syth o fuarth y fferm yma yn Nolyrychain, gall y beiciwr profiadol dilyn yr holl lwybr 20 milltir o hyd ac efallai ymuno â Llwybr Sustrans 81. Mae adrannau eraill o Lwybr Ystwyth yn cynnig diwrnod allan gwych i'r teulu â beicio hawdd a mynediad at Warchodfa Natur Cors Caron**.

Mae Bwlch Nant yr Arian yn cynnig rhai o'r llwybrau beic mynydd gorau yng Nghymru, fel Llwybr Pendam 9km o hyd sef llwybr trac sengl â rhai rhannau sy'n heriol yn dechnegol, profiad 'trên colli cylla' 16km o hyd yw Llwybr y Copa heb anghofio Llwybr Syfydrin sef 35km o fryniau agored a chefn gwlad anghysbell.

Cofiwch fod gennym ni ardal storio beiciau a golchi beiciau ynghyd â beic dynion (â Thandem i Blentyn)  beic merched ac un beic plentyn, yn ogystal â chadair babi a helmedau.

Dewch a'ch beic eich hun

Mae croeso i chi gyrraedd â'ch beiciau ac ategolion eich hun. Mae gennym ni'r holl gyfleusterau sydd eu hangen arnoch chi. Mae yna rhywle diogel i storio eich beiciau dros nos a llwybr pwrpasol i'ch tywys i lawr i Lwybr Ystwyth fel y gallwch chi ddechrau mwynhau'r cyfleoedd i feicio o amgylch  Dolyrychain.

Beicio yn yr ardal

Mae Dolyrychain yn agos at rwydwaith o lwybrau beicio a hyrwyddir gan gynnwys:

Llwybr Ystwyth - Aberystwyth i Drawscoed 32KM

Llwybr Beiciau Rheidol - O Aberystwyth i Bontarfynach 28 KM

Lôn Teifi - Aberystwyth i Abergwaun 160 KM

Nant Yr Arian - rhwydwaith o lwybrau beicio mynydd

Fideo You Tube o Nant Yr Arian

Hefyd cynhelir digwyddiadau beicio blynyddol yn lleol. Dilynwch Glwb Seiclo Caron ar Facebook i gael mwy o wybodaeth. Cofiwch am Ŵyl Seiclo Aber a gynhelir ym mis Mai a Rasys i Lawr Rhiw Ceinewydd a gynhelir ym mis Tachwedd.

Mae Dolyrychain hefyd o fewn cyrraedd hwylus i'r Canolfannau Gwyliau Seiclo niferus, â thri llwybr yn gadael o Dregaron.

I gael mwy o wybodaeth ewch ihttp://www.discoverceredigion.co.uk

Teithiau Beic Tywysedig Lleol

Tynnwch y straen o'r gadwyn a llogwch Dywysydd Mynydd Lleol ar Feic. Bydd Eifion yn mynd â chi i fannau diddordeb ym Mynyddoedd Cambria. Golygfeydd gwych, tywys llawn gwybodaeth a diwrnod allan pleserus i bawb - ond bydd eich coesau'n adrodd stori gwahanol ar ôl y daith feic hon.

http://midwalesmountainbikeguides.com/