Marchogaeth Ceffylau

Mae gennym 6 stabl ag adnoddau da iawn ar gyfer eich holl anghenion ceffylaidd ynghyd â phadog glaswelltog. Gallwch gyrraedd Llwybr Ystwyth, llwybr llinellol rhwng Aberystwyth a Thregaron, yn syth o'r fferm. Mae'r llwybr hwn yn cynnwys rhannau sy'n addas ar gyfer marchogaeth a chysylltiadau â llwybrau cylchol yn Llanilar a Thrawscoed.

Gallwch lwytho i lawr mwy o wybodaeth am y llwybrau hyn a llwybrau march eraill lleol ar pdf Ceredigion ar Gefn Ceffyl

Cofiwch y Cod Cefn Gwlad pan fyddwch ar y llwybrau hyn.

Byddwch yn ddiogel, gwisgwch het caled, dillad llachar ac amddiffyniad ar eich coesau.

Byddwch yn ymwybodol o newidiadau cyflym yn y tywydd, ewch â dillad glaw, ffôn symudol, map, a digon o fwyd a diod efo chi.

Os byddwch yn marchogaeth ar eich pen eich hun, rhowch wybod i rywun i le fyddwch chi'n mynd ac am ba mor hir.

Teithiau Ceffyl Tywysedig Lleol

Mae Dolyrychain yn lleoliad perffaith ar gyfer amrywiaeth o lwybrau march, ac yn dilyn lansiad diweddar llyfryn Ceredigion ar Gefn Ceffyl, bellach gallwch ddewis o blith 13 llwybr.

 

Ewch i www.discoverceredigion.co.uk i weld copi y gallwch ei lwytho i lawr o'r llyfryn Ceredigion ar Gefn Ceffyl.

 

Neu gallwch ymweld â Chanolfan Farchogaeth Rheidol, sydd 45 munud i ffwrdd mewn car. Ewch i www.rheidol-riding-centre.co.uk.