Cerdded

Mae Dolyrychain yng nghymuned Croeso i Gerddwyr Bro Tregaron. Mae'r ardal yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i gerdded gan gynnwys y daith gerdded fer o amgylch Cors Caron a Dyffryn Teifi i'r teithiau cerdded diwrnod cyfan estynedig yn uchel ym Mynyddoedd Cambria. Edrychwch ar y llyfryn Tregaron Trails newydd ei gyhoeddi os byddwch awydd cerdded ar eich pen eich hun.

Fel arfer cysylltwch â'r tywysydd cerdded lleol Dafydd y gallwch drefnu treulio diwrnod neu fwy yn ei gwmni.

Mae Dafydd yn nabod yr ardal cystal â'r tu mewn i'w  sach teithio ac mae wedi bod yn tywys teithiau cerdded ers 1994. Ewch i www.twmstreks.com i gael gwybodaeth am deithiau cerdded Dafydd.

Dewch i www.discoverceredigion.co.uk i weld yr amrywiaeth o deithiau cerdded sydd ar gael yng Ngheredigion ar y dudalen Beth i'w wneud. Mae oriel o deithiau cerdded lleol ar gael hefyd.

Dyma ffilm fer sy'n hyrwyddo'r Mynyddoedd Cambria. Mae un o'r teithiau cerdded yn agos iawn at Fythynnod Dolyrychain.

Teithiau hunan-dywys

Y mae llawer o lwybrau lleol ac ar draws y sir y gallwch ddewis o'u plith. Mae gan Tregaron Trails saith llwybr lleol, pob un o fewn cyrraedd hwylus i Fythynnod Dolyrychain mewn car. Ymhellach i ffwrdd yng Ngheredigion gallwch ddewis o blith amrywiaeth o lwybrau cerdded a hyrwyddir. Dewiswch i le'r hoffech chi fynd a llwythwch fap hawdd ei ddefnyddio i lawr.

Ewch i www.discoverceredigion.co.uk i gael gwybodaeth bellach

Teithiau tywys

Hoffech adael i rywun arall trefnu eich profiadau cerdded?

Wel, nid oes angen edrych ymhellach na Dafydd, tywysydd cerdded lleol sydd wedi bod yn arwain teithiau cerdded yn yr ardal hon ers 1994. Mae Dafydd yn rhedeg Twm’s Treks, ac oherwydd bod dros 20 o lwybrau lleol ar gael, gallwch fod yn sicr y bydd eich amser yn cerdded gydag ef yn gofiadwy a diogel. Rhowch wybod i ni ymlaen llaw os hoffech i Dafydd eich tywys yn ystod eich arhosiad.

www.twmstreks.com